Media 45

 

Gwasg mewn Gwasgfa?

 

Tystiolaeth gan Dalen Newydd Cyf. i Bwyllgor y Cynulliad

Cenedlaethol ar y Cyfryngau yng Nghymru.

 

1          Diben cyntaf Dalen Newydd Cyf., a gofrestrwyd yn Ionawr 2006, oedd cyhoeddi papurau newydd Cymraeg rhanbarthol am ddim.  Gan y profodd hynny’n anodd iawn yn y byd sydd ohoni, aeth y cwmni rhagddo i gyhoeddi llyfrau, gan ganolbwyntio i ddechrau ar y gyfres ‘Cyfrolau Cenedl’.  Yn ystod 2010-2011 cyhoeddwyd pedair cyfrol, ac mae llawer rhagor ar y gweill.  ‘Bydd hon yn gyfres bwysig,’ medd Llafar Gwlad; ac meddai Y Casglwr: ‘Dyma gyhoeddwr sy’n cyrraedd mannau lle nad aiff eraill.’

 

2          Mae tri o aelodau Dalen Newydd hefyd yn fuddsoddwyr yn Dyddiol Cyf.  Deil penderfyniad y Llywodraeth ar fater Y Byd, Chwefror 2006, yn siom ac yn ddirgelwch. Mae datblygiadau ac amgylchiadau oddi ar hynny yn peri ailofyn cwestiynau ynghylch y penderfyniad. Gyda’r trai presennol ar hysbysebu, sydd â’i effeithiau ledled y byd a’r un modd yma yng Nghymru, rhaid wynebu’r cwestiwn, a fyddai Y Byd wedi goroesi petai wedi ei lansio yn 2008?  A fyddai ein cynllun ninnau, o ddau bapur lleol rhad-ac-am-ddim, wedi gallu ymgynnal?  Onid penderfyniad cywir oedd cyfeirio’r gefnogaeth tuag at wefan Golwg 360?  Am y wefan honno, heb gloriannu dim ar ei chryfderau a’i gwendidau, gellir dweud â sicrwydd ei bod wedi llenwi bwlch; ei bod yn llwyddo i ddarparu gwasanaeth newyddion dyddiol ysgrifenedig Cymraeg am y tro cyntaf erioed; a bod y cyfle sydd gan bawb i ymateb i’r straeon yn ysgogi pobl i ysgrifennu Cymraeg, ym mhen ei werth o ran trafodaeth gyhoeddus. Tybed nad oedd y gweinidogion, bron i bedair blynedd yn ôl, yn iawn wedi’r cyfan?  Yr hyn sy’n ein hatal rhag dweud ‘oeddynt’ oedd eu hamharodrwydd i roi rhesymau ar y pryd, nac wedyn, nac i esbonio na chyd-drafod mewn unrhyw ffordd â chefnogwyr Y Byd na chefnogwyr unrhyw ddatblygiad arall yn y wasg brintiedig Gymraeg.

 

3          Drwy’r cyfan mae rhyw ‘afael’ ar bapur newydd, – papur go-iawn, wedi ei wneud o bapur.     Dylai cymuned ieithyddol o hanner miliwn allu cynnal tri neu bedwar papur dyddiol. Ond beth a wneir pan yw dau o bapurau Saesneg Cymru, y Western Mail a’r Daily Post, yn wynebu anawsterau, yn rhannol oherwydd gwasgfa economaidd ac yn rhannol oherwydd cwymp enfawr yn eu cylchrediad, ynghyd â her technoleg wahanol.  Yn ein hardal ninnau wele’r Bangor Mail, a oedd yn ymddangos yn bapur pur lewyrchus bedair blynedd yn ôl, yn awr yn methu ymgynnal ar ei hysbysebion ac yn gorfod gofyn pris am bob copi.

 

4          Hyd yn oed os mai anawsterau’r wasg Saesneg a barodd sefydlu’r pwyllgor, gobeithiwn nad anwybyddir sefyllfa’r wasg Gymraeg, ac y bydd hithau ar ei hennill os gwêl y pwyllgor ryw ateb ymarferol.  Fis Ionawr 2010 cyflwynodd Dalen Newydd ddogfen i Uned yr Iaith Gymraeg, Llywodraeth Cynulliad Cymru,  mewn ymateb i wahoddiad agored y  Llywodraeth, ‘Strategaeth Newydd ar gyfer y Gymraeg: dweud eich dweud’.  Credem ar y pryd fod y ddogfen yn berthnasol i’r  ‘Materion Allweddol’ hyn a  restrwyd yn rhan 2 y gwahoddiad:  ‘sicrhau bod y Gymraeg yn parhau’n iaith gymunedol, y gall pobl ei defnyddio fel rhan o’u bywydau bob dydd;  hyrwyddo’r Gymraeg yn y sector preifat;  cefnogi a datblygu cyhoeddi Cymraeg’. Mae’r un ystyriaethau, fe gredwn, yn dal yn berthnasol.

 

5          O ran magu teimlad o ‘berchenogaeth’ neu ‘feddiant’ ar iaith, a thrwy hynny sefydlogi’r iaith fel rhan o fywyd bob dydd, nid oes dim un ffactor pwysicach na’r gallu i ddarllen yr iaith, a’r arferiad o’i darllen yn rheolaidd.  Dyma pam, mewn sawl ardal o Gymru, y bu cyfraniad y papurau bro, oddi ar ddechrau’r 1970au, yn gwbl allweddol.  Y rhain, heb unrhyw amheuaeth, fu llwyddiant diwylliannol mawr Cymru yn rhan olaf yr hen ganrif: buont yn angor i’r Gymraeg yn wyneb llawer o ddylanwadau eraill a oedd yn ansefydlogi.

 

6          Bwriad Dalen Newydd oedd cyhoeddi dau bapur lleol masnachol wythnosol, Tarian Arfon a Tarian Môn.  Yr ydym am bwysleisio mai papurau lleol a fyddai’r rhain, nid papurau bro; h.y. byddent ar yr un tir â’r Holyhead & Anglesey Mail neu’r Caernarfon Herald, nid Llais Ogwan neu Papur Menai.  Gwnaed copïau peilot o’r ddau bapur, 32 tudalen yr un, a’u defnyddio i gynnal arolwg o ffynonellau hysbysebion yn y ddwy ardal.  Byddid yn dosbarthu yn rhad ac am ddim, gan dalu i gwmni dosbarthu a chan anelu at gylchrediad o 30,000 (17,500, Arfon; 12,500, Môn). Byddai Tarian Arfon yn gwasanaethu hen sir Gaernarfon, sef rhan o sir bresennol Gwynedd a rhan o sir bresennol Conwy, a Tarian Môn y cyfan o Fôn. 

 

7          Pan argraffwyd y copïau peilot yn 2007 yr oeddem yn rhagdybio y byddai dau gyhoeddiad o’r natur hon yn llenwi peth ar y tir canol rhwng y papurau bro misol a’r Byd dyddiol arfaethedig.  Erys yr egwyddor yr un fath: rhaid creu gwasg reolaidd Gymraeg gyda chylchrediad helaeth.

 

8          Ni allwn anwybyddu casgliad ‘Arolwg  Bianchi’ (2008):  ‘Mae’r sector newyddion print Cymraeg yn dameidiog, yn dlawd ac yn rhy anghyflawn i ddiwallu hyd yn oed anghenion mwyaf sylfaenol y darllenydd modern am wybodaeth yngln â’r gymdeithas y mae’n byw ynddi... Nid oes dim cyfrwng print Cymraeg ar gyfer newyddion yng ngwir ystyr y gair.’   Anodd yw anghytuno, gan fod yr arwyddion mor eglur.  Bu blynyddoedd llwyddiant y papurau bro hefyd yn flynyddoedd o drai difrifol yn hanes y wasg leol wythnosol, fasnachol, draddodiadol Gymraeg.  Yng Ngwynedd, yr arwydd eglur o hyn fu diflaniad yr Herald

 

9          Galwn i gof hefyd drafodaeth y Cynulliad Cenedlaethol ar ddyfodol y wasg Gymraeg, 5 Chwefror 2008, yn union wedi’r cyhoeddiad ynglûn â’r Byd, pryd y daeth un thema’n bur amlwg:  ‘Bydd yn allweddol bod unrhyw ddatblygiad yn y maes . yn arwain at gynnydd yn nifer darllenwyr Cymraeg.’  A thrachefn:  ‘bod yn rhaid i unrhyw ddatblygiadau yn y maes hwn agor y drws i gynulleidfaoedd newydd – i bobl nad ydynt ar hyn o bryd yn darllen unrhyw beth yn Gymraeg.’ Cynulleidfa’r papurau bro fyddai ein sylfaen. Byddid yn adeiladu ar y sylfaen hon, a gweithio tuag at yr hyn a fyddai, i bob diben, yn wasg Gymraeg genedlaethol wythnosol gyda chynulleidfa fawr, ond yn bodoli ar ffurf cyfres o fersiynau lleol.

 

10        Am rai blynyddoedd, a hyd at yn ddiweddar iawn, ymddangosai mai gobaith mwyaf y wasg brint oedd y ‘papur am ddim’, yn cael ei gynnal gan hysbysebion. Ond ymddengys heddiw fod y wasgfa economaidd, ynghyd â phethau eraill, yn pylu’r gobaith hwn.

 

11        Ac eithrio hysbysiadau cyhoeddus, nid oes cronfa genedlaethol Gymreig o hysbysebion. Mae hysbysiadau Llywodraeth y Cynulliad, llywodraeth leol a chyrff cyhoeddus cenedlaethol yn allweddol yng nghynhaliaeth y wasg Saesneg ddyddiol ac wythnosol yng Nghymru heddiw.  Dangoswyd hyn yn glir yn  adroddiad gwerthfawr Ysgol Newyddiaduraeth Caerdydd, The Regional and Local Media in Wales (2006).

 

12        Y dewis arall fyddai cymhorthdal uniongyrchol, megis a delir i rai cyhoeddiadau Cymraeg drwy Gyngor Llyfrau Cymru, ond ar raddfa lawer yn fwy. Bydd y pwyllgor yn ymwybodol o anawsterau hyn. Buom ninnau’n gyson yn pwysleisio nad oeddem yn dymuno dibynnu ar grantiau, a bod gwahaniaeth o ran egwyddor rhwng hynny a derbyn hysbysiadau cyhoeddus fel rhan o fusnes.  I gyfiawnhau’r math hwnnw o gefnogaeth byddai raid i’r papurau Cymraeg, yn union fel y rhai Saesneg,  gynnig cylchrediad a fyddai’n rhoi gwerth am arian i’r holl hysbysebwyr, preifat a chyhoeddus. Byddai Dalen Newydd yn troi pob carreg i sicrhau hysbysebion masnachol, ac yr ydym wedi arloesi drwy ymweld â thua 500 o brif fusnesion Môn ac Arfon.

 

13        Hoffem feddwl y gallai’r ddwy Darian ddod yn gychwyn ar gadwyn o bapurau Cymraeg wythnosol yn ymestyn dros y rhan helaethaf o Gymru ac yn cynnig cylchrediad  mawr (100,000 efallai, yn darged ).  Ac edrych ymlaen, un posibilrwydd fyddai cyhoeddi papur ar ddau ddiwrnod yr wythnos (unwaith am ddim ac unwaith ar werth, efallai), a phwy a wyr na byddai llwybr yn arwain o’r fan honno tuag at y nod o wasg ddyddiol – nod y mae’n rhaid ei gyrraedd, hwyr neu hwyrach, ryw fodd neu’i gilydd.

 

14        Gellir gofyn: pam nad ymddiried y gwaith i’r papurau bro, gan eu bod wedi eu sefydlu mor dda?  Beth y gobeithir ei wneud yn wahanol?  Er eu gwytnwch a’u cyfraniad amhrisiadwy dros y 35 mlynedd diwethaf, mae terfynau ar yr hyn y gall y papurau bro misol ei gyflawni.  Anaml y mae ganddynt yr adnoddau i ‘fynd tu ôl’ i’r newyddion. Ac am eu bod yn gyfeillgar eu hagwedd ac yn ‘agos-at’ eu darllenwyr, eu tuedd yw osgoi pethau dadleuol, a thrwy hynny osgoi’r ‘drafodaeth genedlaethol’ y mae mawr angen amdani.

 

15        Ni byddem yn diystyru’r posibilrwydd o ddealltwriaeth â grwp neu gwmni arall pe gwelid bod hynny’n ffordd o greu cylchrediad helaeth un ai ar gyfer hysbysebion cyffredinol neu (yn fwy addas efallai) ar gyfer hysbysiadau cyhoeddus cenedlaethol yn unig. (O ran hysbysiadau masnachol a hysbysiadau cyhoeddus lleol, byddai’r ddau grwp yn gweithredu’n annibynnol ar ei gilydd, a byddent yn gwbl annibynnol yn olygyddol.)  Un posibilrwydd fyddai cydweithio rhwng (a) Tariannau Môn-Arfon, gyda chylchrediad ‘trwchus’ o fewn ardal  gyfyngedig, a (b) papur am-ddim arall gyda chylchrediad ‘teneuach’ ond cyffredinol drwy Gymru.  Ond oherwydd y ffactor a grybwyllwyd o’r blaen, sef nad oes cronfa genedlaethol Gymreig o hysbysebion masnachol, ymddengys y byddai raid i (b) hefyd wrth ryw fath o sylfaen leol – y brifddinas, efallai?  Y strategaeth (gan mai dyna’r allweddair) fyddai cychwyn yn y ddau begwn, Gwynedd-Morgannwg, a gweithio tuag at gyrraedd y rhan helaethaf o Gymru o dipyn i beth.  (Fe ddylai fod gan Gaerdydd ei hun, am ei bod yn brifddinas, o leiaf un papur dyddiol Cymraeg.  Ond stori arall yw honno.)

 

16        Os gwêl y pwyllgor, ar ddiwedd ei ystyriaeth, ffordd ymlaen i’r wasg yng Nghymru, byddai’n dda gennym feddwl y bydd lle i’r wasg Gymraeg o fewn y strategaeth. Bydd gennym ddiddordeb mewn unrhyw gynllun a wna’n bosibl ddatblygiad a fyddai’n cynyddu’n sylweddol rif y darllenwyr Cymraeg, a byddwn yn falch o fod â  rhan mewn unrhyw drafodaeth i’r diben hwn.

 

 

            Dydd Calan 2012.

 

 

 

 

 

 

 

                Dalen Newydd Cyf., 3 Trem y Fenai, Bangor, Gwynedd, LL57 2HF.

Rhif y cwmni: 5670879.  Dafydd Glyn Jones (Cadeirydd), Gwawr Jones (Ysgrifennydd), Gethin Jones, Elidir Jones.